Uwch Swyddog Cyswllt Cymunedol i Elin Jones AS
Ystod cyflog: £30,520 - £42,811 (pro rata)
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd hyd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 32 awr.
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth, Aberystwyth.
Natur y penodiad: Parhaol.
Cyf: MBS-005-24
Diben y swydd
Prif rôl yr Uwch Swyddog Ymgysylltu Cymunedol fydd gweithio'n agos gydag etholwyr, grwpiau a sefydliadau yng Ngheredigion i hyrwyddo ac arwain ar brosiectau cymunedol, cynrychioli yr Aelod yn y gymuned, ac ymateb i ymholiadau gan etholwyr. Bydd trafod ar y ffôn ac ar ebost gyda phobol Ceredigion yn allweddol i’r swydd ac yna cyd-weithio gyda Elin a’r tîm i ddod o hyd i ddatrysiadau a chyfleon.
Yn ogystal â chefnogi Elin yn ei swydd, bydd y Swyddog hefyd yn mynychu cyfarfodydd, yn ymchwilio ac yn ymateb i ymholiadau, gan weithio fel rhan allweddol o'r tîm.
Prif ddyletswyddau
1. Arwain ar brosiectau cymunedol, yn galluogi’r Aelod i ymateb mewn ffordd weithgar i anhawsterau sy’n effeithio ar nifer o etholwyr o fewn y sir. Bydd hyn yn cynnwys trefnu cyfarfodydd cyhoeddus, casglu adborth gan etholwyr, â chyfathrebu gyda sefydliadau a chysylltiadau lleol.
2. Arwain ar gynyddu gallu’r Aelod i ymgysylltu gyda’r gymuned ar draws y sir, gan drefnu presenoldeb a chynrychioli’r Aelod mewn digwyddiadau lleol.
3. Ymateb i ymholiadau gan etholwyr, yn enwedig ar achosion sy’n ymwneud â pholisi neu bynciau sy’n effeithio ar nifer o etholwyr.
4. Cynorthwyo’r Aelod gyda’i gweithgarwch ar y cyfryngau cymdeithasol, mewn cydweithrediad gyda’r Rheolwr Cyfathrebu ac Ymchwil.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol
• Y gallu i weithio ac ysgrifennu i safon uchel yn y Gymraeg a’r Saesneg.
• Y gallu i wneud gwaith gweinyddol
• Gwybodaeth am faterion sy'n berthnasol i'r ardal leol, a dealltwriaeth ohonynt
• Profiad o weithio o fewn y gymuned
• Sgiliau cyfathrebu cryf gyda’r gallu i drafod materion anodd
• Dealltwriaeth o'r angen i fynd i'r afael â gwahaniaethu ac i hyrwyddo cyfle cyfartal ac egwyddorion Nolan ar gyfer bywyd cyhoeddus, ac ymrwymiad iddynt
Cymwysterau Hanfodol
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol; neu
• Cymhwyster NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol;
• Dystiolaeth o sgiliau rhifedd a llythrennedd e.e. TGAU Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
Fe'ch cynghorir i ddarllen Manyleb y Swydd a'r Person yn llawn cyn gwneud cais am y swydd hon
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, anfonwch ffurflen gais i Branwen.Davies@senedd.cymru
Dyddiad cau: 13:00, 24 Mai 2024.
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau